1 Macabeaid 14:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Daeth y newydd am farw Jonathan i Rufain, ac i Sparta hefyd, a buont yn galaru'n fawr.

17. Pan glywsant am benodi ei frawd Simon yn archoffeiriad yn ei le, a bod y wlad a'i threfi dan ei awdurdod ef,

18. ysgrifenasant ato ar lechau pres i adnewyddu ag ef y cyfeillgarwch a'r cynghrair a wnaethant â'i frodyr Jwdas a Jonathan.

19. Darllenwyd hwn gerbron y gynulleidfa yn Jerwsalem.

20. Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd y Spartiaid:“Llywodraethwyr a dinas y Spartiaid at yr archoffeiriad Simon, ac at yr henuriaid a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, ein brodyr, cyfarchion.

1 Macabeaid 14