10. Darparodd Simon gyflenwad bwyd i'r trefi, a gosod ynddynt arfau amddiffyn; ac ymledodd y sôn am ei enw anrhydeddus hyd eithaf y ddaear.
11. Sefydlodd heddwch yn y tir, a bu llawenydd Israel yn fawr dros ben.
12. Eisteddodd pob un dan ei winwydden a'i ffigysbren, heb neb i'w ddychrynu.
13. Yn y dyddiau hynny nid oedd neb ar ôl yn y wlad i ryfela yn erbyn yr Iddewon, gan fod y brenhinoedd wedi cael eu dinistrio.
14. Rhoddodd Simon nawdd i'r holl rai iselradd ymhlith ei bobl; rhoes sylw manwl i'r gyfraith, a bwriodd ymaith bob un digyfraith a drygionus.
15. Rhoes fri mawr ar y cysegr, ac amlhau ei lestri cysegredig.
16. Daeth y newydd am farw Jonathan i Rufain, ac i Sparta hefyd, a buont yn galaru'n fawr.
17. Pan glywsant am benodi ei frawd Simon yn archoffeiriad yn ei le, a bod y wlad a'i threfi dan ei awdurdod ef,
18. ysgrifenasant ato ar lechau pres i adnewyddu ag ef y cyfeillgarwch a'r cynghrair a wnaethant â'i frodyr Jwdas a Jonathan.
19. Darllenwyd hwn gerbron y gynulleidfa yn Jerwsalem.
20. Dyma gopi o'r llythyr a anfonodd y Spartiaid:“Llywodraethwyr a dinas y Spartiaid at yr archoffeiriad Simon, ac at yr henuriaid a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, ein brodyr, cyfarchion.
21. Mynegwyd wrthym am eich bri a'ch anrhydedd gan y cenhadau a anfonwyd at ein pobl, a pharodd eu hymweliad lawenydd mawr inni.