1 Macabeaid 13:39-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

39. Yr ydym yn maddau eich troseddau, bwriadol ac anfwriadol, hyd at y dydd hwn, ynghyd ag arian y goron a oedd yn ddyledus gennych; ac y mae unrhyw dreth arall a godid yn Jerwsalem i gael ei diddymu.

40. Os oes yn eich plith rai cymwys i gael eu cofrestru'n aelodau o'n gosgordd, fe gânt eu cofrestru. Boed heddwch rhyngom.”

41. Yn y flwyddyn 170 codwyd ymaith iau'r Cenhedloedd oddi ar war Israel.

42. Dechreuodd y bobl ysgrifennu yn eu cytundebau a'u cyfamodau: “Ym mlwyddyn gyntaf yr archoffeiriad mawr Simon, cadlywydd ac arweinydd yr Iddewon.”

43. Yn y dyddiau hynny gwersyllodd Simon yn erbyn Gasara, a'i hamgylchynu hi â'i fyddinoedd. Gwnaeth beiriant gwarchae, a'i ddwyn i fyny at y dref, a tharo un tŵr a'i feddiannu.

44. Neidiodd y gwŷr a oedd yn y peiriant gwarchae allan i'r dref, a bu cynnwrf mawr yn y dref—

45. gwŷr y dref gyda'u gwragedd a'u plant yn dringo i fyny ar y mur, a rhwygo'u dillad, a gweiddi â llef uchel a deisyf ar Simon estyn ei ddeheulaw iddynt mewn heddwch.

46. “Paid â'n trin yn ôl ein drygau,” meddent, “ond yn ôl dy drugaredd.”

47. Cynigiodd Simon delerau heddwch iddynt, a dwyn y rhyfel i ben. Ond taflodd hwy allan o'r dref, ac wedi puro'r tai yr oedd yr eilunod ynddynt, aeth i mewn iddi dan ganu a moliannu.

48. Taflodd allan ohoni bob aflendid, a gosododd i breswylio ynddi rai a fyddai'n cadw'r gyfraith. Cadarnhaodd y dref ac adeiladu ynddi breswylfod iddo'i hun.

49. Gan fod y rhai a oedd yn y gaer yn Jerwsalem yn cael eu hatal rhag mynd i mewn ac allan i'r wlad i brynu a gwerthu, daeth newyn enbyd arnynt, a threngodd llawer ohonynt o'r herwydd.

50. Gwaeddasant ar Simon i dderbyn deheulaw heddwch, a chydsyniodd yntau. Yna taflodd hwy allan oddi yno a phuro'r gaer o'i holl halogrwydd.

51. Aeth i mewn iddi ar y trydydd dydd ar hugain o'r ail fis yn y flwyddyn 171, dan foliannu a chwifio cangau palmwydd, yn sŵn telynau, symbalau, a nablau, a than ganu emynau a cherddi, i ddathlu goruchafiaeth Israel ar ei gelyn mawr.

52. Gorchmynnodd Simon fod y dydd hwn i'w ddathlu mewn llawenydd bob blwyddyn; cadarnhaodd fynydd y deml gyferbyn â'r gaer, a gwneud y lle hwnnw yn breswylfod iddo'i hun a'i wŷr.

53. Pan welodd Simon fod ei fab Ioan wedi tyfu'n ddyn, penododd ef yn arweinydd ar ei holl luoedd, a gwnaeth yntau ei breswylfod yn Gasara.

1 Macabeaid 13