33. Adeiladodd Simon geyrydd Jwdea a'u cadarnhau â thyrau uchel ac â muriau cadarn a phyrth a barrau, a gosododd luniaeth yn y ceyrydd.
34. Dewisodd Simon hefyd wŷr, a'u hanfon at y Brenin Demetrius i geisio gollyngdod i'r wlad, gan mai lladrad oedd holl drethi Tryffo.
35. Anfonodd y Brenin Demetrius neges fel a ganlyn ato; atebodd ef, a dyma'r llythyr a ysgrifennodd yn ateb i'w gais:
36. “Y Brenin Demetrius at Simon, archoffeiriad a chyfaill brenhinoedd, ac at henuriaid a chenedl yr Iddewon, cyfarchion.
37. Yr ydym wedi derbyn y goron aur a'r gangen balmwydden a anfonasoch, ac yr ydym yn barod i wneud heddwch parhaol â chwi, ac i ysgrifennu at ein swyddogion yn rhoi caniatâd i chwi beidio â thalu trethi.
38. Y mae'r holl gytundebau hynny a wnaethom â chwi wedi eu cadarnhau, ac y mae'r ceyrydd a adeiladasoch i fod yn eiddo i chwi.
39. Yr ydym yn maddau eich troseddau, bwriadol ac anfwriadol, hyd at y dydd hwn, ynghyd ag arian y goron a oedd yn ddyledus gennych; ac y mae unrhyw dreth arall a godid yn Jerwsalem i gael ei diddymu.
40. Os oes yn eich plith rai cymwys i gael eu cofrestru'n aelodau o'n gosgordd, fe gânt eu cofrestru. Boed heddwch rhyngom.”
41. Yn y flwyddyn 170 codwyd ymaith iau'r Cenhedloedd oddi ar war Israel.
42. Dechreuodd y bobl ysgrifennu yn eu cytundebau a'u cyfamodau: “Ym mlwyddyn gyntaf yr archoffeiriad mawr Simon, cadlywydd ac arweinydd yr Iddewon.”
43. Yn y dyddiau hynny gwersyllodd Simon yn erbyn Gasara, a'i hamgylchynu hi â'i fyddinoedd. Gwnaeth beiriant gwarchae, a'i ddwyn i fyny at y dref, a tharo un tŵr a'i feddiannu.
44. Neidiodd y gwŷr a oedd yn y peiriant gwarchae allan i'r dref, a bu cynnwrf mawr yn y dref—
45. gwŷr y dref gyda'u gwragedd a'u plant yn dringo i fyny ar y mur, a rhwygo'u dillad, a gweiddi â llef uchel a deisyf ar Simon estyn ei ddeheulaw iddynt mewn heddwch.
46. “Paid â'n trin yn ôl ein drygau,” meddent, “ond yn ôl dy drugaredd.”
47. Cynigiodd Simon delerau heddwch iddynt, a dwyn y rhyfel i ben. Ond taflodd hwy allan o'r dref, ac wedi puro'r tai yr oedd yr eilunod ynddynt, aeth i mewn iddi dan ganu a moliannu.
48. Taflodd allan ohoni bob aflendid, a gosododd i breswylio ynddi rai a fyddai'n cadw'r gyfraith. Cadarnhaodd y dref ac adeiladu ynddi breswylfod iddo'i hun.
49. Gan fod y rhai a oedd yn y gaer yn Jerwsalem yn cael eu hatal rhag mynd i mewn ac allan i'r wlad i brynu a gwerthu, daeth newyn enbyd arnynt, a threngodd llawer ohonynt o'r herwydd.
50. Gwaeddasant ar Simon i dderbyn deheulaw heddwch, a chydsyniodd yntau. Yna taflodd hwy allan oddi yno a phuro'r gaer o'i holl halogrwydd.