3. a'u calonogi â'r geiriau hyn: “Fe wyddoch chwi gynifer o bethau a wneuthum i, a'm brodyr, a thŷ fy nhad, dros y cyfreithiau a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r cyfyngderau a welsom.
4. A dyma'r achos, achos Israel, y lladdwyd fy mrodyr oll er ei fwyn, a myfi yn unig a adawyd.
5. Yn awr, felly, na ato Duw imi arbed fy einioes mewn unrhyw adeg o orthrymder; oherwydd nid wyf fi'n well na'm brodyr.
6. Yn hytrach yr wyf am ddial cam fy nghenedl a'r cysegr, a'ch gwragedd a'ch plant; oherwydd y mae'r holl Genhedloedd yn eu gelyniaeth wedi ymgasglu ynghyd i'n difrodi ni.”
7. Adfywiodd ysbryd y bobl y foment y clywsant y geiriau hyn,
8. ac atebasant â llais uchel: “Ti yw ein harweinydd ni yn lle Jwdas a Jonathan dy frawd.
9. Ymladda di ein rhyfel, a pha beth bynnag a ddywedi wrthym, fe'i gwnawn.”
10. Casglodd yntau yr holl wŷr cymwys i ryfela, a brysiodd i orffen muriau Jerwsalem, a'i chadarnhau o bob tu.
11. Anfonodd Jonathan fab Absalom, a llu mawr gydag ef, i Jopa; taflodd hwnnw y trigolion allan ac ymsefydlu yno yn y dref.
12. Symudodd Tryffo o Ptolemais gyda llu mawr i oresgyn gwlad Jwda, gan ddwyn Jonathan gydag ef yn garcharor.
13. Gwersyllodd Simon yn Adidas gyferbyn â'r gwastatir.
14. Pan ddeallodd Tryffo fod Simon wedi olynu ei frawd Jonathan, a'i fod ar fedr mynd i'r afael ag ef mewn brwydr, anfonodd genhadau ato gyda'r neges hon:
15. “Yr ydym yn dal Jonathan dy frawd yn gaeth o achos y ddyled o arian oedd arno i'r trysordy brenhinol, ar gyfrif y swyddi a ddaliai.
16. Felly, os anfoni yn awr gan talent o arian a dau o'i feibion yn wystlon i sicrhau na fydd yn gwrthryfela yn ein herbyn ar ôl ei ryddhau, fe'i rhyddhawn.”