1 Macabeaid 13:20-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Wedi hyn daeth Tryffo i oresgyn y wlad a'i difrodi. Aeth ar gylchdro i gyfeiriad Adora. Yr oedd Simon a'i fyddin yn tramwyo gyferbyn ag ef, i ble bynnag yr âi.

21. Ond yr oedd gwŷr y gaer yn anfon cenhadau at Tryffo i bwyso arno i frysio atynt drwy'r anialwch ac i anfon lluniaeth iddynt.

22. Paratôdd Tryffo ei holl wŷr meirch i fynd, ond y noson honno bu eira mawr iawn, ac nid aeth oherwydd yr eira. Ciliodd a mynd i Gilead.

23. Pan nesaodd at Bascana lladdodd Jonathan, a chladdwyd ef yno.

24. Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.

25. Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.

26. Gwnaeth holl Israel alar mawr amdano; do, buont yn galarnadu amdano am ddyddiau lawer.

1 Macabeaid 13