1 Macabeaid 13:15-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. “Yr ydym yn dal Jonathan dy frawd yn gaeth o achos y ddyled o arian oedd arno i'r trysordy brenhinol, ar gyfrif y swyddi a ddaliai.

16. Felly, os anfoni yn awr gan talent o arian a dau o'i feibion yn wystlon i sicrhau na fydd yn gwrthryfela yn ein herbyn ar ôl ei ryddhau, fe'i rhyddhawn.”

17. Er i Simon ddeall eu bod yn llefaru'n ddichellgar wrtho, eto anfonodd i nôl yr arian a'r bechgyn, rhag iddo ennyn casineb mawr o du'r bobl,

18. ac iddynt hwythau ddweud: “Am nad anfonodd Simon yr arian a'r bechgyn y llofruddiwyd Jonathan.”

19. Felly anfonodd y bechgyn a'r can talent; ond ei dwyllo a wnaeth Tryffo, ac ni ryddhaodd Jonathan.

20. Wedi hyn daeth Tryffo i oresgyn y wlad a'i difrodi. Aeth ar gylchdro i gyfeiriad Adora. Yr oedd Simon a'i fyddin yn tramwyo gyferbyn ag ef, i ble bynnag yr âi.

21. Ond yr oedd gwŷr y gaer yn anfon cenhadau at Tryffo i bwyso arno i frysio atynt drwy'r anialwch ac i anfon lluniaeth iddynt.

22. Paratôdd Tryffo ei holl wŷr meirch i fynd, ond y noson honno bu eira mawr iawn, ac nid aeth oherwydd yr eira. Ciliodd a mynd i Gilead.

23. Pan nesaodd at Bascana lladdodd Jonathan, a chladdwyd ef yno.

24. Wedyn troes Tryffo yn ôl a dychwelyd i'w wlad ei hun.

25. Trefnodd Simon i ddwyn esgyrn ei frawd Jonathan a'i gladdu yn Modin, tref ei hynafiaid.

26. Gwnaeth holl Israel alar mawr amdano; do, buont yn galarnadu amdano am ddyddiau lawer.

27. Ar feddrod ei dad a'i frodyr adeiladodd Simon gofadail y gallai pawb ei gweld, a'i hwyneb a'i chefn o gerrig nadd.

28. Cododd hefyd saith o byramidiau, un gyferbyn â'r llall, i'w dad a'i fam a'i bedwar brawd.

29. Cynlluniodd y rhain yn gelfydd, gan osod colofnau mawr o'u hamgylch, ac ar y colofnau lluniodd arfdlysau amrywiol i fod yn goffadwriaeth dragwyddol, a chydag ymyl yr arfdlysau longau cerfiedig y gellid eu gweld gan bawb oedd yn hwylio'r môr.

30. Y mae'r beddrod hwn a wnaeth ef yn Modin yn aros hyd y dydd hwn.

1 Macabeaid 13