1 Macabeaid 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywodd Simon fod Tryffo wedi casglu llu mawr gyda'r bwriad o fynd i wlad Jwda i'w difrodi hi.

2. Pan welodd fod y bobl yn llawn ofn a dychryn, aeth i fyny i Jerwsalem a chynnull y bobl,

3. a'u calonogi â'r geiriau hyn: “Fe wyddoch chwi gynifer o bethau a wneuthum i, a'm brodyr, a thŷ fy nhad, dros y cyfreithiau a'r cysegr; a'r rhyfeloedd a'r cyfyngderau a welsom.

4. A dyma'r achos, achos Israel, y lladdwyd fy mrodyr oll er ei fwyn, a myfi yn unig a adawyd.

1 Macabeaid 13