1 Macabeaid 12:50-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

50. Ond pan ddeallodd y rheini fod Jonathan a'i wŷr wedi eu dal a'u lladd, dyma hwy'n calonogi ei gilydd, ac yn dechrau symud rhagddynt yn rhengoedd clòs a pharod i ryfel.

51. Pan welodd yr ymlidwyr y byddai'n frwydr hyd angau, troesant yn eu holau.

52. Felly daeth yr Iddewon i gyd yn ddihangol i wlad Jwda, mewn galar mawr am Jonathan a'i wŷr, a chan ofni'n ddirfawr.

53. Bwriwyd Israel gyfan i alar mawr. Aeth yr holl Genhedloedd o'u hamgylch ati yn awr i'w difrodi, oherwydd dywedasant: “Nid oes ganddynt lywodraethwr na chynorthwywr. Dyma ein cyfle, felly, i fynd i ryfel yn eu herbyn, a dileu'r coffa amdanynt o blith dynion.”

1 Macabeaid 12