5. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:
6. “Yr archoffeiriad Jonathan, a henuriaid y genedl a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, at ein brodyr y Spartiaid, cyfarchion.
7. Ar achlysur blaenorol anfonwyd llythyr at yr archoffeiriad Onias oddi wrth eich brenin Arius i'r perwyl eich bod yn frodyr i ni, fel y mae'r copi amgaeëdig yn tystio.
8. Croesawodd Onias y cennad yn anrhydeddus, a derbyn ganddo y llythyr, a oedd yn egluro telerau'r cynghrair cyfeillgar.
9. Gan hynny, er nad oes arnom ni angen cytundebau o'r fath, am fod gennym yn galondid y llyfrau sanctaidd sydd yn ein meddiant,
10. yr ydym wedi ymgymryd ag anfon i adnewyddu'r brawdgarwch a'r cyfeillgarwch rhyngom a chwi, rhag bod ymddieithrio rhyngom; oherwydd aeth cryn amser heibio er pan anfonasoch lythyr atom.
11. Yn wir, yr ydym ni bob amser, ar y gwyliau ac ar ddyddiau cyfaddas eraill, yn eich cofio yn ddi-baid yn yr aberthau a offrymwn ac mewn gweddïau, fel y mae'n iawn a phriodol cofio brodyr.
12. Yr ydym yn llawenhau yn y bri sydd i chwi.
13. Buom yng nghanol llawer o orthrymderau, a rhyfeloedd lawer; bu'r brenhinoedd o'n cwmpas yn rhyfela yn ein herbyn.