44. Dywedodd wrth Jonathan: “I ba bwrpas y peraist flinder i'r holl bobl hyn, heb fod rhyfel rhyngom?
45. Yn awr, felly, anfon hwy adref, a dewis i ti dy hun ychydig wŷr i fod gyda thi, a thyrd gyda mi i Ptolemais, ac fe'i rhof hi iti, ynghyd â'r ceyrydd eraill, a gweddill y lluoedd, a'r holl swyddogion. Yna fe drof yn ôl a mynd oddi yma, oherwydd dyna pam y deuthum yma.”
46. Credodd Jonathan ef, a gwnaeth fel y dywedodd. Anfonodd ei luoedd i ffwrdd, a dychwelsant i wlad Jwda.
47. Cadwodd gydag ef dair mil o wŷr; gadawodd ddwy fil ohonynt yng Ngalilea, ac aeth mil i'w ganlyn ef.
48. Pan ddaeth Jonathan i mewn i Ptolemais, caeodd y Ptolemeaid y pyrth a'i ddal, a lladdasant â'r cleddyf bawb oedd wedi dod i mewn gydag ef.
49. Anfonodd Tryffo lu o wŷr traed a gwŷr meirch i Galilea, i'r gwastatir mawr, i ddileu holl wŷr Jonathan.
50. Ond pan ddeallodd y rheini fod Jonathan a'i wŷr wedi eu dal a'u lladd, dyma hwy'n calonogi ei gilydd, ac yn dechrau symud rhagddynt yn rhengoedd clòs a pharod i ryfel.
51. Pan welodd yr ymlidwyr y byddai'n frwydr hyd angau, troesant yn eu holau.
52. Felly daeth yr Iddewon i gyd yn ddihangol i wlad Jwda, mewn galar mawr am Jonathan a'i wŷr, a chan ofni'n ddirfawr.
53. Bwriwyd Israel gyfan i alar mawr. Aeth yr holl Genhedloedd o'u hamgylch ati yn awr i'w difrodi, oherwydd dywedasant: “Nid oes ganddynt lywodraethwr na chynorthwywr. Dyma ein cyfle, felly, i fynd i ryfel yn eu herbyn, a dileu'r coffa amdanynt o blith dynion.”