1 Macabeaid 12:43-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

43. Yn hytrach croesawodd ef yn anrhydeddus, a'i ganmol wrth ei holl Gyfeillion, a rhoi iddo anrhegion, a gorchymyn i'w Gyfeillion ac i'w luoedd ufuddhau i Jonathan gymaint ag iddo ef ei hun.

44. Dywedodd wrth Jonathan: “I ba bwrpas y peraist flinder i'r holl bobl hyn, heb fod rhyfel rhyngom?

45. Yn awr, felly, anfon hwy adref, a dewis i ti dy hun ychydig wŷr i fod gyda thi, a thyrd gyda mi i Ptolemais, ac fe'i rhof hi iti, ynghyd â'r ceyrydd eraill, a gweddill y lluoedd, a'r holl swyddogion. Yna fe drof yn ôl a mynd oddi yma, oherwydd dyna pam y deuthum yma.”

46. Credodd Jonathan ef, a gwnaeth fel y dywedodd. Anfonodd ei luoedd i ffwrdd, a dychwelsant i wlad Jwda.

47. Cadwodd gydag ef dair mil o wŷr; gadawodd ddwy fil ohonynt yng Ngalilea, ac aeth mil i'w ganlyn ef.

48. Pan ddaeth Jonathan i mewn i Ptolemais, caeodd y Ptolemeaid y pyrth a'i ddal, a lladdasant â'r cleddyf bawb oedd wedi dod i mewn gydag ef.

49. Anfonodd Tryffo lu o wŷr traed a gwŷr meirch i Galilea, i'r gwastatir mawr, i ddileu holl wŷr Jonathan.

50. Ond pan ddeallodd y rheini fod Jonathan a'i wŷr wedi eu dal a'u lladd, dyma hwy'n calonogi ei gilydd, ac yn dechrau symud rhagddynt yn rhengoedd clòs a pharod i ryfel.

51. Pan welodd yr ymlidwyr y byddai'n frwydr hyd angau, troesant yn eu holau.

52. Felly daeth yr Iddewon i gyd yn ddihangol i wlad Jwda, mewn galar mawr am Jonathan a'i wŷr, a chan ofni'n ddirfawr.

1 Macabeaid 12