1 Macabeaid 12:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Rhoes y Rhufeiniaid lythyrau iddynt yn gorchymyn i'r awdurdodau ym mhobman eu hebrwng yn heddychlon i dir Jwda.

5. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:

6. “Yr archoffeiriad Jonathan, a henuriaid y genedl a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, at ein brodyr y Spartiaid, cyfarchion.

7. Ar achlysur blaenorol anfonwyd llythyr at yr archoffeiriad Onias oddi wrth eich brenin Arius i'r perwyl eich bod yn frodyr i ni, fel y mae'r copi amgaeëdig yn tystio.

8. Croesawodd Onias y cennad yn anrhydeddus, a derbyn ganddo y llythyr, a oedd yn egluro telerau'r cynghrair cyfeillgar.

9. Gan hynny, er nad oes arnom ni angen cytundebau o'r fath, am fod gennym yn galondid y llyfrau sanctaidd sydd yn ein meddiant,

1 Macabeaid 12