35. Dychwelodd Jonathan a chynnull henuriaid y bobl ynghyd, a dechrau ymgynghori â hwy ynghylch adeiladu ceyrydd yn Jwdea,
36. a chodi muriau Jerwsalem yn uwch, a chodi clawdd terfyn mawr rhwng y gaer a'r ddinas er mwyn ei gwahanu hi oddi wrth y ddinas, iddi fod ar ei phen ei hun, a'i gwneud yn amhosibl i'r gwarchodlu brynu a gwerthu.
37. Felly ymgasglasant ynghyd i adeiladu'r ddinas, oherwydd yr oedd rhan o'r mur ar hyd ochr y nant tua'r dwyrain wedi syrthio; ac atgyweiriwyd y rhan a elwir Chaffenatha.
38. Adeiladodd Simon hefyd Adida yn Seffela, a'i chadarnhau, a gosod pyrth a barrau.
39. Yr oedd Tryffo am ddod yn frenin dros Asia a gwisgo'r goron, a rhoes ei fryd ar wrthryfela yn erbyn y Brenin Antiochus.
40. Ond yn ei ofn na fyddai Jonathan yn cydsynio ag ef ac y byddai'n ymladd yn ei erbyn, ceisiodd fodd i ddal hwnnw a'i ladd. Cychwynnodd am Bethsan.
41. Aeth Jonathan allan i'w gyfarfod gyda deugain mil o filwyr dethol, a daeth ef hefyd i Bethsan.
42. Pan welodd Tryffo ei fod wedi dod gyda llu mawr ofnodd ymosod arno.
43. Yn hytrach croesawodd ef yn anrhydeddus, a'i ganmol wrth ei holl Gyfeillion, a rhoi iddo anrhegion, a gorchymyn i'w Gyfeillion ac i'w luoedd ufuddhau i Jonathan gymaint ag iddo ef ei hun.
44. Dywedodd wrth Jonathan: “I ba bwrpas y peraist flinder i'r holl bobl hyn, heb fod rhyfel rhyngom?
45. Yn awr, felly, anfon hwy adref, a dewis i ti dy hun ychydig wŷr i fod gyda thi, a thyrd gyda mi i Ptolemais, ac fe'i rhof hi iti, ynghyd â'r ceyrydd eraill, a gweddill y lluoedd, a'r holl swyddogion. Yna fe drof yn ôl a mynd oddi yma, oherwydd dyna pam y deuthum yma.”