1 Macabeaid 12:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. Ymlidiodd Jonathan ar eu hôl ond ni oddiweddodd hwy, oherwydd yr oeddent wedi croesi Afon Elewtherus.

31. Yna troes Jonathan o'r neilltu i ymosod ar yr Arabiaid, a elwir yn Sabadeaid, a'u trechu, a dwyn ysbail oddi arnynt.

32. Cododd ei wersyll a symud i Ddamascus, a thramwyo drwy'r holl wlad.

33. Cychwynnodd Simon allan a thramwyo hyd at Ascalon a'r ceyrydd cyfagos; yna troes o'r neilltu i Jopa a'i meddiannu hi,

34. oherwydd yr oedd wedi clywed bod ei thrigolion yn arfaethu trosglwyddo'r gaer i wŷr Demetrius. Felly gosododd warchodlu yno i'w chadw.

1 Macabeaid 12