1 Macabeaid 12:29-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Ond ni ddaeth Jonathan a'i wŷr i wybod am hyn tan y bore, er iddynt weld golau'r tanau.

30. Ymlidiodd Jonathan ar eu hôl ond ni oddiweddodd hwy, oherwydd yr oeddent wedi croesi Afon Elewtherus.

31. Yna troes Jonathan o'r neilltu i ymosod ar yr Arabiaid, a elwir yn Sabadeaid, a'u trechu, a dwyn ysbail oddi arnynt.

32. Cododd ei wersyll a symud i Ddamascus, a thramwyo drwy'r holl wlad.

33. Cychwynnodd Simon allan a thramwyo hyd at Ascalon a'r ceyrydd cyfagos; yna troes o'r neilltu i Jopa a'i meddiannu hi,

34. oherwydd yr oedd wedi clywed bod ei thrigolion yn arfaethu trosglwyddo'r gaer i wŷr Demetrius. Felly gosododd warchodlu yno i'w chadw.

35. Dychwelodd Jonathan a chynnull henuriaid y bobl ynghyd, a dechrau ymgynghori â hwy ynghylch adeiladu ceyrydd yn Jwdea,

36. a chodi muriau Jerwsalem yn uwch, a chodi clawdd terfyn mawr rhwng y gaer a'r ddinas er mwyn ei gwahanu hi oddi wrth y ddinas, iddi fod ar ei phen ei hun, a'i gwneud yn amhosibl i'r gwarchodlu brynu a gwerthu.

37. Felly ymgasglasant ynghyd i adeiladu'r ddinas, oherwydd yr oedd rhan o'r mur ar hyd ochr y nant tua'r dwyrain wedi syrthio; ac atgyweiriwyd y rhan a elwir Chaffenatha.

38. Adeiladodd Simon hefyd Adida yn Seffela, a'i chadarnhau, a gosod pyrth a barrau.

39. Yr oedd Tryffo am ddod yn frenin dros Asia a gwisgo'r goron, a rhoes ei fryd ar wrthryfela yn erbyn y Brenin Antiochus.

40. Ond yn ei ofn na fyddai Jonathan yn cydsynio ag ef ac y byddai'n ymladd yn ei erbyn, ceisiodd fodd i ddal hwnnw a'i ladd. Cychwynnodd am Bethsan.

41. Aeth Jonathan allan i'w gyfarfod gyda deugain mil o filwyr dethol, a daeth ef hefyd i Bethsan.

1 Macabeaid 12