1 Macabeaid 12:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Pan ddeallodd yr ymosodwyr fod Jonathan a'i wŷr yn barod i ryfel, yn eu hofn a'u llwfrdra cyneuasant danau yn eu gwersyll.

29. Ond ni ddaeth Jonathan a'i wŷr i wybod am hyn tan y bore, er iddynt weld golau'r tanau.

30. Ymlidiodd Jonathan ar eu hôl ond ni oddiweddodd hwy, oherwydd yr oeddent wedi croesi Afon Elewtherus.

31. Yna troes Jonathan o'r neilltu i ymosod ar yr Arabiaid, a elwir yn Sabadeaid, a'u trechu, a dwyn ysbail oddi arnynt.

1 Macabeaid 12