1 Macabeaid 12:2-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Anfonodd lythyrau hefyd i'r un perwyl at y Spartiaid ac i leoedd eraill.

3. Daeth y cenhadau i Rufain a mynd i mewn i'r senedd-dy a dweud: “Anfonodd yr archoffeiriad Jonathan a chenedl yr Iddewon ni i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a fu gynt rhyngoch chwi a hwy.”

4. Rhoes y Rhufeiniaid lythyrau iddynt yn gorchymyn i'r awdurdodau ym mhobman eu hebrwng yn heddychlon i dir Jwda.

5. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:

6. “Yr archoffeiriad Jonathan, a henuriaid y genedl a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, at ein brodyr y Spartiaid, cyfarchion.

7. Ar achlysur blaenorol anfonwyd llythyr at yr archoffeiriad Onias oddi wrth eich brenin Arius i'r perwyl eich bod yn frodyr i ni, fel y mae'r copi amgaeëdig yn tystio.

1 Macabeaid 12