1 Macabeaid 12:2-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Anfonodd lythyrau hefyd i'r un perwyl at y Spartiaid ac i leoedd eraill.

3. Daeth y cenhadau i Rufain a mynd i mewn i'r senedd-dy a dweud: “Anfonodd yr archoffeiriad Jonathan a chenedl yr Iddewon ni i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a fu gynt rhyngoch chwi a hwy.”

4. Rhoes y Rhufeiniaid lythyrau iddynt yn gorchymyn i'r awdurdodau ym mhobman eu hebrwng yn heddychlon i dir Jwda.

5. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:

6. “Yr archoffeiriad Jonathan, a henuriaid y genedl a'r offeiriaid a gweddill pobl yr Iddewon, at ein brodyr y Spartiaid, cyfarchion.

7. Ar achlysur blaenorol anfonwyd llythyr at yr archoffeiriad Onias oddi wrth eich brenin Arius i'r perwyl eich bod yn frodyr i ni, fel y mae'r copi amgaeëdig yn tystio.

8. Croesawodd Onias y cennad yn anrhydeddus, a derbyn ganddo y llythyr, a oedd yn egluro telerau'r cynghrair cyfeillgar.

9. Gan hynny, er nad oes arnom ni angen cytundebau o'r fath, am fod gennym yn galondid y llyfrau sanctaidd sydd yn ein meddiant,

10. yr ydym wedi ymgymryd ag anfon i adnewyddu'r brawdgarwch a'r cyfeillgarwch rhyngom a chwi, rhag bod ymddieithrio rhyngom; oherwydd aeth cryn amser heibio er pan anfonasoch lythyr atom.

11. Yn wir, yr ydym ni bob amser, ar y gwyliau ac ar ddyddiau cyfaddas eraill, yn eich cofio yn ddi-baid yn yr aberthau a offrymwn ac mewn gweddïau, fel y mae'n iawn a phriodol cofio brodyr.

12. Yr ydym yn llawenhau yn y bri sydd i chwi.

13. Buom yng nghanol llawer o orthrymderau, a rhyfeloedd lawer; bu'r brenhinoedd o'n cwmpas yn rhyfela yn ein herbyn.

14. Er hynny, nid oeddem yn ewyllysio, yn y rhyfeloedd hyn, eich trafferthu chwi na'n cynghreiriaid a'n cyfeillion eraill,

15. oherwydd y mae gennym gymorth y nef i'n cynorthwyo; a chawsom ein gwaredu oddi wrth ein gelynion, a chawsant hwythau eu darostwng.

16. Dewisasom felly Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, ac yr ydym wedi eu hanfon at y Rhufeiniaid i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a oedd rhyngom a hwy gynt.

17. Am hynny rhoesom orchymyn iddynt ddod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoi i chwi y llythyr hwn gennym ynghylch adnewyddu ein brawdgarwch â chwi hefyd.

18. Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”

1 Macabeaid 12