1 Macabeaid 12:19-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Dyma gopi o'r llythyr oedd wedi ei anfon at Onias:

20. “Arius brenin y Spartiaid at yr archoffeiriad Onias, cyfarchion.

21. Darganfuwyd mewn dogfen fod y Spartiaid a'r Iddewon yn frodyr, a'u bod fel ei gilydd o hil Abraham.

22. Gan inni ddod i wybod hyn, a fyddwch cystal yn awr ag ysgrifennu atom am eich hynt?

23. A dyma ninnau yn ein tro yn ysgrifennu atoch chwi i ddweud fod eich anifeiliaid a'r cwbl sydd gennych yn eiddo i ni, a'n heiddo ninnau'n eiddo i chwi. Yr ydym yn gorchymyn felly i'r cenhadau eich hysbysu am hyn.”

24. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi dychwelyd gyda llu mawr, mwy na'r tro cyntaf, i ryfela yn ei erbyn.

1 Macabeaid 12