1 Macabeaid 12:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”

19. Dyma gopi o'r llythyr oedd wedi ei anfon at Onias:

20. “Arius brenin y Spartiaid at yr archoffeiriad Onias, cyfarchion.

21. Darganfuwyd mewn dogfen fod y Spartiaid a'r Iddewon yn frodyr, a'u bod fel ei gilydd o hil Abraham.

22. Gan inni ddod i wybod hyn, a fyddwch cystal yn awr ag ysgrifennu atom am eich hynt?

23. A dyma ninnau yn ein tro yn ysgrifennu atoch chwi i ddweud fod eich anifeiliaid a'r cwbl sydd gennych yn eiddo i ni, a'n heiddo ninnau'n eiddo i chwi. Yr ydym yn gorchymyn felly i'r cenhadau eich hysbysu am hyn.”

24. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi dychwelyd gyda llu mawr, mwy na'r tro cyntaf, i ryfela yn ei erbyn.

25. Ymadawodd â Jerwsalem a mynd i'w cyfarfod i wlad Hamath; felly ni roddodd iddynt gyfle i sengi o fewn ei wlad ei hun.

26. Anfonodd ysbïwyr i'w gwersyll, a adroddodd ar ôl dychwelyd fod y gelyn yn ymfyddino i ymosod arnynt liw nos.

27. Wedi machlud haul gorchmynnodd Jonathan i'w wŷr fod ar wyliadwriaeth a chadw eu harfau ar hyd y nos, yn barod i ryfel; yna gosododd ragwylwyr o gwmpas y gwersyll.

1 Macabeaid 12