15. oherwydd y mae gennym gymorth y nef i'n cynorthwyo; a chawsom ein gwaredu oddi wrth ein gelynion, a chawsant hwythau eu darostwng.
16. Dewisasom felly Nwmenius fab Antiochus ac Antipater fab Jason, ac yr ydym wedi eu hanfon at y Rhufeiniaid i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a oedd rhyngom a hwy gynt.
17. Am hynny rhoesom orchymyn iddynt ddod atoch chwithau, a'ch cyfarch, a rhoi i chwi y llythyr hwn gennym ynghylch adnewyddu ein brawdgarwch â chwi hefyd.
18. Yn awr, felly, a fyddwch cystal â rhoi ateb inni i'r neges hon?”
19. Dyma gopi o'r llythyr oedd wedi ei anfon at Onias:
20. “Arius brenin y Spartiaid at yr archoffeiriad Onias, cyfarchion.
21. Darganfuwyd mewn dogfen fod y Spartiaid a'r Iddewon yn frodyr, a'u bod fel ei gilydd o hil Abraham.
22. Gan inni ddod i wybod hyn, a fyddwch cystal yn awr ag ysgrifennu atom am eich hynt?
23. A dyma ninnau yn ein tro yn ysgrifennu atoch chwi i ddweud fod eich anifeiliaid a'r cwbl sydd gennych yn eiddo i ni, a'n heiddo ninnau'n eiddo i chwi. Yr ydym yn gorchymyn felly i'r cenhadau eich hysbysu am hyn.”
24. Clywodd Jonathan fod capteiniaid Demetrius wedi dychwelyd gyda llu mawr, mwy na'r tro cyntaf, i ryfela yn ei erbyn.
25. Ymadawodd â Jerwsalem a mynd i'w cyfarfod i wlad Hamath; felly ni roddodd iddynt gyfle i sengi o fewn ei wlad ei hun.
26. Anfonodd ysbïwyr i'w gwersyll, a adroddodd ar ôl dychwelyd fod y gelyn yn ymfyddino i ymosod arnynt liw nos.
27. Wedi machlud haul gorchmynnodd Jonathan i'w wŷr fod ar wyliadwriaeth a chadw eu harfau ar hyd y nos, yn barod i ryfel; yna gosododd ragwylwyr o gwmpas y gwersyll.