1 Macabeaid 12:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwelodd Jonathan fod yr amser yn ffafriol iddo, a dewisodd wŷr a'u hanfon i Rufain i gadarnhau ac adnewyddu ei gyfeillgarwch â phobl y ddinas honno.

2. Anfonodd lythyrau hefyd i'r un perwyl at y Spartiaid ac i leoedd eraill.

3. Daeth y cenhadau i Rufain a mynd i mewn i'r senedd-dy a dweud: “Anfonodd yr archoffeiriad Jonathan a chenedl yr Iddewon ni i adnewyddu'r cynghrair cyfeillgar a fu gynt rhyngoch chwi a hwy.”

4. Rhoes y Rhufeiniaid lythyrau iddynt yn gorchymyn i'r awdurdodau ym mhobman eu hebrwng yn heddychlon i dir Jwda.

5. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifennodd Jonathan at y Spartiaid:

1 Macabeaid 12