1 Macabeaid 11:56-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

56. Daeth yr eliffantod i feddiant Tryffo, a choncrodd Antiochia.

57. Ysgrifennodd Antiochus ifanc at Jonathan fel hyn: “Yr wyf yn dy gadarnhau yn dy swydd fel archoffeiriad, ac yn dy osod dros y pedair rhandir, ac yn dy wneud yn un o Gyfeillion y Brenin.”

58. Anfonodd iddo lestri aur at ei wasanaeth, a rhoes iddo'r hawl i yfed allan o lestri aur, i ymddilladu mewn porffor a gwisgo clespyn aur.

1 Macabeaid 11