1 Macabeaid 11:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Pan gyrhaeddwyd Asotus dangoswyd iddo deml Dagon wedi ei llosgi, Asotus a'i maestrefi yn adfeilion, y cyrff wedi eu gwasgaru ar hyd y lle, a'r rhai yr oedd Jonathan wedi eu llosgi yn y rhyfel wedi eu gadael yn bentyrrau ar hyd ei ffordd.

5. Mynegwyd i'r brenin beth yr oedd Jonathan wedi ei wneud, er mwyn bwrw'r bai arno; ond tewi a wnaeth y brenin.

6. Daeth Jonathan mewn rhwysg i gyfarfod y brenin yn Jopa; cyfarchodd y ddau ei gilydd, a chysgu yno.

7. Aeth Jonathan gyda'r brenin hyd at yr afon a elwir Elewtherus; yna dychwelodd i Jerwsalem.

8. Gwnaeth y Brenin Ptolemeus ei hun yn arglwydd ar drefi'r arfordir hyd at Selewcia ger y môr, gan fwriadu bwriadau drwg yn erbyn Alexander.

1 Macabeaid 11