1 Macabeaid 11:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. gwnaeth y brenin ag ef fel y gwnaethai ei ragflaenwyr, gan ei anrhydeddu yng ngŵydd ei holl Gyfeillion.

27. Cadarnhaodd ef yn ei swydd fel archoffeiriad, ac ym mhob anrhydedd arall a oedd ganddo o'r blaen, a pheri ei godi i blith ei Gyfeillion pennaf.

28. Deisyfodd Jonathan ar y brenin ryddhau Jwdea, ynghyd â'r tair talaith a Samaria, o dreth, ac addawodd iddo dri chant o dalentau.

29. Bodlonodd y brenin, ac ysgrifennodd lythyrau at Jonathan ynghylch y pethau hyn oll fel a ganlyn:

30. “Y Brenin Demetrius at y brawd Jonathan, ac at genedl yr Iddewon, cyfarchion.

31. Dyma gopi o'r llythyr a ysgrifenasom at ein perthynas Lasthenes yn eich cylch, wedi ei gopïo i'w anfon atoch chwithau hefyd, er gwybodaeth i chwi:

1 Macabeaid 11