1 Macabeaid 11:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Cafodd fai ar Alexander fel hyn am ei fod yn chwenychu ei deyrnas.

12. Cymerodd ei ferch oddi arno a'i rhoi i Demetrius. Ymddieithriodd oddi wrth Alexander, a daeth yr elyniaeth rhyngddynt yn amlwg.

13. Aeth Ptolemeus i mewn i Antiochia a gwisgo coron Asia; felly daeth i wisgo dwy goron, un yr Aifft ac un Asia.

14. Yr adeg honno yr oedd y Brenin Alexander yn Cilicia, oherwydd bod trigolion y parthau hynny mewn gwrthryfel.

15. Pan glywodd Alexander, aeth i ryfel yn erbyn Ptolemeus, a daeth yntau allan i'w gyfarfod â llu mawr, a'i yrru ar ffo.

16. Ffoes Alexander i Arabia i geisio nodded yno, ac yr oedd y Brenin Ptolemeus uwchben ei ddigon.

17. Torrodd Sabdiel yr Arabiad ben Alexander i ffwrdd, a'i anfon at Ptolemeus.

1 Macabeaid 11