1 Macabeaid 10:84-89 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

84. Llosgodd Jonathan Asotus a'r trefi o'i hamgylch, a'u hysbeilio, gan losgi teml Dagon hefyd, a'r ffoaduriaid o'i mewn.

85. Yr oedd y rhai a syrthiodd trwy gleddyf, ynghyd â'r rhai a losgwyd, yn rhifo tua wyth mil o wŷr.

86. Teithiodd Jonathan oddi yno a gwersyllu ger Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w gyfarfod â rhwysg mawr.

87. Dychwelodd Jonathan a'i wŷr i Jerwsalem, a chanddynt lawer o ysbail.

88. Pan glywodd y Brenin Alexander am y pethau hyn aeth ati i anrhydeddu Jonathan fwyfwy eto.

89. Anfonodd iddo glespyn aur, fel y mae'n arfer ei roi i berthnasau brenhinoedd; rhoes yn feddiant iddo hefyd Accaron a'i holl gyffiniau.

1 Macabeaid 10