1 Macabeaid 10:8-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Daeth ofn mawr arnynt pan glywsant fod y brenin wedi rhoi awdurdod iddo i gasglu llu.

9. Ond trosglwyddodd y gwŷr o'r gaer y gwystlon i Jonathan, a rhoes ef hwy i'w rhieni.

10. Gwnaeth Jonathan ei drigle yn Jerwsalem a dechrau adeiladu ac adnewyddu'r ddinas,

11. gan orchymyn i'r gweithwyr adeiladu muriau'r ddinas, ac amgylchu Mynydd Seion â cherrig sgwâr er mwyn ei gadarnhau; a gwnaethant felly.

12. Yna ffoes yr estroniaid a oedd yn y caerau yr oedd Bacchides wedi eu hadeiladu;

13. gadawodd pob un ei le a dychwelyd i'w wlad ei hun.

14. Eto gadawyd ar ôl yn Bethswra rai o'r sawl a oedd wedi ymwrthod â'r gyfraith ac â'r ordinhadau; oherwydd yr oedd yn ddinas noddfa iddynt.

15. Clywodd y Brenin Alexander am yr addewidion a anfonodd Demetrius at Jonathan, a mynegwyd iddo am y rhyfeloedd, a'r gwrhydri a wnaethai Jonathan a'i frodyr, ac am y caledi a ddioddefasant.

16. Dywedodd, “A gawn ni fyth un tebyg i hwn?

17. Gwnawn ef felly yn awr yn gyfaill a chynghreiriad inni.” Ysgrifennodd lythyrau a'u hanfon ato fel a ganlyn:

18. “Y Brenin Alexander at y brawd Jonathan, cyfarchion.

19. Clywsom amdanat, dy fod yn ŵr cadarn, nerthol; a theilwng wyt i fod yn gyfaill inni.

1 Macabeaid 10