74. Pan glywodd Jonathan eiriau Apolonius cyffrowyd ei ysbryd. Dewisodd ddeng mil o wŷr, a chychwyn allan o Jerwsalem. Ymunodd ei frawd Simon ag ef i fod yn gymorth iddo.
75. Gwersyllodd ger Jopa, ond yr oedd y dinasyddion wedi cau'r pyrth yn ei erbyn, am fod gwarchodlu Apolonius yn Jopa.
76. Ymladdasant yn ei herbyn; ac yn eu dychryn agorodd y dinasyddion iddo, a daeth Jonathan yn arglwydd ar Jopa.
77. Pan glywodd Apolonius am hyn casglodd dair mil o wŷr meirch a llu mawr o wŷr traed, a theithio tuag Asotus, fel petai am fynd ymhellach. Yr un pryd, am fod ganddo liaws o wŷr meirch yr oedd yn ymddiried ynddynt, aeth rhagddo i'r gwastatir.
78. Ymlidiodd Jonathan ar ei ôl hyd Asotus, a daeth y byddinoedd ynghyd i ryfel.
79. Ond yr oedd Apolonius wedi gadael mil o wŷr meirch yn ddirgel y tu cefn iddynt,
80. a deallodd Jonathan fod cynllwyn y tu ôl iddo. Amgylchynasant ei fyddin a thaflu saethau at y bobl o fore bach hyd hwyr.