1 Macabeaid 10:73-89 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

73. Yn awr gan hynny ni fedri wrthsefyll y gwŷr meirch na'r fath lu yn y gwastatir, lle nid oes na chraig na charreg, nac unrhyw le i ffoi iddo.”

74. Pan glywodd Jonathan eiriau Apolonius cyffrowyd ei ysbryd. Dewisodd ddeng mil o wŷr, a chychwyn allan o Jerwsalem. Ymunodd ei frawd Simon ag ef i fod yn gymorth iddo.

75. Gwersyllodd ger Jopa, ond yr oedd y dinasyddion wedi cau'r pyrth yn ei erbyn, am fod gwarchodlu Apolonius yn Jopa.

76. Ymladdasant yn ei herbyn; ac yn eu dychryn agorodd y dinasyddion iddo, a daeth Jonathan yn arglwydd ar Jopa.

77. Pan glywodd Apolonius am hyn casglodd dair mil o wŷr meirch a llu mawr o wŷr traed, a theithio tuag Asotus, fel petai am fynd ymhellach. Yr un pryd, am fod ganddo liaws o wŷr meirch yr oedd yn ymddiried ynddynt, aeth rhagddo i'r gwastatir.

78. Ymlidiodd Jonathan ar ei ôl hyd Asotus, a daeth y byddinoedd ynghyd i ryfel.

79. Ond yr oedd Apolonius wedi gadael mil o wŷr meirch yn ddirgel y tu cefn iddynt,

80. a deallodd Jonathan fod cynllwyn y tu ôl iddo. Amgylchynasant ei fyddin a thaflu saethau at y bobl o fore bach hyd hwyr.

81. Ond daliodd y bobl eu tir, fel yr oedd Jonathan wedi gorchymyn, a diffygiodd gwŷr meirch y gelyn.

82. Yna arweiniodd Simon ei lu allan a dechrau ymladd â'r gatrawd o wŷr traed, gan fod y gwŷr meirch wedi llwyr flino. Drylliwyd hwy ganddo a ffoesant.

83. Gwasgarwyd y gwŷr meirch yn y gwastatir; ffoesant i Asotus a chyrraedd Beth-dagon, teml eu heilun, am noddfa.

84. Llosgodd Jonathan Asotus a'r trefi o'i hamgylch, a'u hysbeilio, gan losgi teml Dagon hefyd, a'r ffoaduriaid o'i mewn.

85. Yr oedd y rhai a syrthiodd trwy gleddyf, ynghyd â'r rhai a losgwyd, yn rhifo tua wyth mil o wŷr.

86. Teithiodd Jonathan oddi yno a gwersyllu ger Ascalon, a daeth y dinasyddion allan i'w gyfarfod â rhwysg mawr.

87. Dychwelodd Jonathan a'i wŷr i Jerwsalem, a chanddynt lawer o ysbail.

88. Pan glywodd y Brenin Alexander am y pethau hyn aeth ati i anrhydeddu Jonathan fwyfwy eto.

89. Anfonodd iddo glespyn aur, fel y mae'n arfer ei roi i berthnasau brenhinoedd; rhoes yn feddiant iddo hefyd Accaron a'i holl gyffiniau.

1 Macabeaid 10