1 Macabeaid 10:72-76 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

72. Hola, iti gael dysgu pwy wyf fi a phwy yw'r lleill sydd yn ein cynorthwyo; ac fe ddywedir wrthyt, ‘Nid oes i chwi led troed wyneb yn wyneb â ni’, oherwydd gyrrwyd dy hynafiaid ar ffo ddwywaith yn eu gwlad eu hunain.

73. Yn awr gan hynny ni fedri wrthsefyll y gwŷr meirch na'r fath lu yn y gwastatir, lle nid oes na chraig na charreg, nac unrhyw le i ffoi iddo.”

74. Pan glywodd Jonathan eiriau Apolonius cyffrowyd ei ysbryd. Dewisodd ddeng mil o wŷr, a chychwyn allan o Jerwsalem. Ymunodd ei frawd Simon ag ef i fod yn gymorth iddo.

75. Gwersyllodd ger Jopa, ond yr oedd y dinasyddion wedi cau'r pyrth yn ei erbyn, am fod gwarchodlu Apolonius yn Jopa.

76. Ymladdasant yn ei herbyn; ac yn eu dychryn agorodd y dinasyddion iddo, a daeth Jonathan yn arglwydd ar Jopa.

1 Macabeaid 10