64. Pan welodd y rhai oedd yn achwyn arno ei rwysg, ac yntau yn ei wisg borffor, yn unol â'r gorchymyn, ffoesant i gyd.
65. Felly yr anrhydeddodd y brenin ef: ei restru ymhlith ei Gyfeillion pennaf, a'i benodi'n gadlywydd ac yn llywodraethwr talaith.
66. A dychwelodd Jonathan i Jerwsalem mewn heddwch a gorfoledd.
67. Yn y flwyddyn 165 daeth Demetrius, mab Demetrius, o Creta i wlad ei hynafiaid.
68. Pan glywodd y Brenin Alexander am hyn, bu'n ofid mawr iddo, a dychwelodd i Antiochia.
69. Penododd Demetrius Apolonius, llywodraethwr Coele Syria, yn gadfridog, a chasglodd yntau lu mawr a gwersyllu ger Jamnia. Anfonodd y neges hon at Jonathan yr archoffeiriad:
70. “Ti yw'r unig un i godi yn ein herbyn; euthum innau yn gyff gwawd a gwatwar o'th achos di. Pam wyt ti yn honni awdurdod arnom yn y mynyddoedd?
71. Yn awr, gan hynny, os oes gennyt gymaint o hyder yn dy luoedd tyrd i lawr atom i'r gwastatir, a gadawer inni gystadlu â'n gilydd yno, oherwydd y mae llu'r dinasoedd o'm plaid i.
72. Hola, iti gael dysgu pwy wyf fi a phwy yw'r lleill sydd yn ein cynorthwyo; ac fe ddywedir wrthyt, ‘Nid oes i chwi led troed wyneb yn wyneb â ni’, oherwydd gyrrwyd dy hynafiaid ar ffo ddwywaith yn eu gwlad eu hunain.
73. Yn awr gan hynny ni fedri wrthsefyll y gwŷr meirch na'r fath lu yn y gwastatir, lle nid oes na chraig na charreg, nac unrhyw le i ffoi iddo.”