57. Ymadawodd Ptolemeus â'r Aifft, ef a'i ferch Cleopatra, a dod i Ptolemais yn y flwyddyn 162.
58. Cyfarfu'r Brenin Alexander ag ef; rhoddodd yntau ei ferch Cleopatra yn briod iddo, a dathlodd ei phriodas mewn rhwysg mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.
59. Ysgrifennodd y Brenin Alexander at Jonathan iddo ddod i'w gyfarfod.
60. Aeth yntau mewn rhwysg i Ptolemais a chyfarfod y ddau frenin. Rhoes iddynt ac i'w Cyfeillion arian ac aur ac anrhegion lawer, a chafodd ffafr yn eu golwg.
61. Ond ymgasglodd gwŷr ysgeler o Israel yn ei erbyn, gwŷr digyfraith, i achwyn arno; ond ni chymerodd y brenin sylw ohonynt.
62. Gorchmynnodd y brenin ddiosg dillad Jonathan oddi amdano a'i wisgo â phorffor, a gwnaethant felly.
63. Gwnaeth y brenin iddo eistedd yn ei ymyl, a dweud wrth ei swyddogion: “Ewch gydag ef i ganol y ddinas, a chyhoeddwch nad oes neb i achwyn arno ynghylch unrhyw fater, nac i aflonyddu arno ynghylch unrhyw achos.”