54. gan hynny gadewch inni yn awr wneud cynghrair â'n gilydd; rho di dy ferch yn awr yn wraig i mi, a byddaf finnau'n fab-yng-nghyfraith i ti, a rhoddaf i ti ac iddi hithau anrhegion teilwng ohonot.”
55. Atebodd y Brenin Ptolemeus fel hyn: “O ddedwydd ddydd pan ddychwelaist i wlad dy hynafiaid ac eistedd ar orsedd eu teyrnas!
56. Fe wnaf i ti yn awr yn unol â'r hyn a ysgrifennaist, ond tyrd i'm cyfarfod yn Ptolemais, er mwyn inni weld ein gilydd, ac imi ddod yn dad-yng-nghyfraith i ti, fel yr wyt wedi dweud.”
57. Ymadawodd Ptolemeus â'r Aifft, ef a'i ferch Cleopatra, a dod i Ptolemais yn y flwyddyn 162.
58. Cyfarfu'r Brenin Alexander ag ef; rhoddodd yntau ei ferch Cleopatra yn briod iddo, a dathlodd ei phriodas mewn rhwysg mawr, fel y mae arfer brenhinoedd.
59. Ysgrifennodd y Brenin Alexander at Jonathan iddo ddod i'w gyfarfod.
60. Aeth yntau mewn rhwysg i Ptolemais a chyfarfod y ddau frenin. Rhoes iddynt ac i'w Cyfeillion arian ac aur ac anrhegion lawer, a chafodd ffafr yn eu golwg.