45. ac o gyfrif y brenin hefyd y mae talu treuliau adeiladu muriau Jerwsalem, ei chadarnhau hi o amgylch, ac adeiladu'r muriau yn Jwdea.”
46. Pan glywodd Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni chredasant hwy na'u derbyn, oherwydd cofiasant y mawr ddrwg yr oedd Demetrius wedi ei gyflawni yn Israel, a'r modd yr oedd wedi eu gormesu'n ddirfawr.
47. Alexander a gafodd eu ffafr, oherwydd ef oedd y cyntaf i lefaru geiriau heddychlon wrthynt, a buont yn gynghreiriaid iddo dros ei holl ddyddiau.
48. Casglodd y Brenin Alexander lu mawr a gwersyllu gyferbyn â Demetrius.
49. Daeth y ddau frenin ynghyd i ryfel; ffoes byddin Demetrius ac ymlidiodd Alexander ef, a'i drechu.
50. Ymladdodd yn galed hyd fachlud haul, a syrthiodd Demetrius y dydd hwnnw.
51. Yna anfonodd Alexander lysgenhadon at Ptolemeus brenin yr Aifft gyda'r neges ganlynol:
52. “Gan i mi ddychwelyd i'm teyrnas i eistedd ar orsedd fy hynafiaid a chipio'r llywodraeth trwy orchfygu Demetrius ac adfeddiannu ein gwlad—
53. euthum i ryfel yn ei erbyn, a gorchfygwyd ef a'i fyddin gennym, ac eisteddasom ar orsedd ei deyrnas—
54. gan hynny gadewch inni yn awr wneud cynghrair â'n gilydd; rho di dy ferch yn awr yn wraig i mi, a byddaf finnau'n fab-yng-nghyfraith i ti, a rhoddaf i ti ac iddi hithau anrhegion teilwng ohonot.”