1 Macabeaid 10:40-48 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Yr wyf hefyd yn rhoi pymtheng mil o siclau arian yn flynyddol o gyllid y brenin allan o'r mannau priodol.

41. Am y gweddill, yr hyn na thalodd y swyddogion i mewn fel y gwnaethant yn y blynyddoedd cyntaf, o hyn ymlaen cânt ei roi at wasanaeth y deml.

42. Heblaw hyn y mae'r pum mil o siclau arian hynny a dderbynient yn flynyddol allan o gyfrifon angenrheidiau'r cysegr i'w maddau hefyd, oherwydd eiddo'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno ydynt.

43. A phawb fydd yn ffoi i'r deml yn Jerwsalem, neu i unrhyw ran o'i chyffiniau, am fod arnynt ddyled i'r brenin, neu unrhyw ddyled arall, y maent i'w gollwng yn rhydd ynghyd â phob eiddo sydd ganddynt yn fy nheyrnas.

44. Y mae treuliau codi ac adnewyddu adeiladau'r cysegr i'w talu o gyfrif y brenin;

45. ac o gyfrif y brenin hefyd y mae talu treuliau adeiladu muriau Jerwsalem, ei chadarnhau hi o amgylch, ac adeiladu'r muriau yn Jwdea.”

46. Pan glywodd Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni chredasant hwy na'u derbyn, oherwydd cofiasant y mawr ddrwg yr oedd Demetrius wedi ei gyflawni yn Israel, a'r modd yr oedd wedi eu gormesu'n ddirfawr.

47. Alexander a gafodd eu ffafr, oherwydd ef oedd y cyntaf i lefaru geiriau heddychlon wrthynt, a buont yn gynghreiriaid iddo dros ei holl ddyddiau.

48. Casglodd y Brenin Alexander lu mawr a gwersyllu gyferbyn â Demetrius.

1 Macabeaid 10