38. “Am y tair rhandir a ychwanegwyd at Jwdea o wlad Samaria, boed iddynt gael eu hychwanegu at Jwdea mewn modd i'w hystyried o dan un llywodraethwr, heb orfod arnynt ufuddhau i unrhyw awdurdod ond yr archoffeiriad.
39. “Yr wyf yn rhoi Ptolemais a'r wlad o'i hamgylch yn rhodd i'r cysegr yn Jerwsalem, i gyfarfod â threuliau angenrheidiol y cysegr.
40. Yr wyf hefyd yn rhoi pymtheng mil o siclau arian yn flynyddol o gyllid y brenin allan o'r mannau priodol.
41. Am y gweddill, yr hyn na thalodd y swyddogion i mewn fel y gwnaethant yn y blynyddoedd cyntaf, o hyn ymlaen cânt ei roi at wasanaeth y deml.
42. Heblaw hyn y mae'r pum mil o siclau arian hynny a dderbynient yn flynyddol allan o gyfrifon angenrheidiau'r cysegr i'w maddau hefyd, oherwydd eiddo'r offeiriaid sy'n gwasanaethu yno ydynt.
43. A phawb fydd yn ffoi i'r deml yn Jerwsalem, neu i unrhyw ran o'i chyffiniau, am fod arnynt ddyled i'r brenin, neu unrhyw ddyled arall, y maent i'w gollwng yn rhydd ynghyd â phob eiddo sydd ganddynt yn fy nheyrnas.
44. Y mae treuliau codi ac adnewyddu adeiladau'r cysegr i'w talu o gyfrif y brenin;
45. ac o gyfrif y brenin hefyd y mae talu treuliau adeiladu muriau Jerwsalem, ei chadarnhau hi o amgylch, ac adeiladu'r muriau yn Jwdea.”
46. Pan glywodd Jonathan a'r bobl y geiriau hyn, ni chredasant hwy na'u derbyn, oherwydd cofiasant y mawr ddrwg yr oedd Demetrius wedi ei gyflawni yn Israel, a'r modd yr oedd wedi eu gormesu'n ddirfawr.
47. Alexander a gafodd eu ffafr, oherwydd ef oedd y cyntaf i lefaru geiriau heddychlon wrthynt, a buont yn gynghreiriaid iddo dros ei holl ddyddiau.
48. Casglodd y Brenin Alexander lu mawr a gwersyllu gyferbyn â Demetrius.
49. Daeth y ddau frenin ynghyd i ryfel; ffoes byddin Demetrius ac ymlidiodd Alexander ef, a'i drechu.
50. Ymladdodd yn galed hyd fachlud haul, a syrthiodd Demetrius y dydd hwnnw.
51. Yna anfonodd Alexander lysgenhadon at Ptolemeus brenin yr Aifft gyda'r neges ganlynol: