1 Macabeaid 10:29-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. “Yn awr yr wyf yn eich gollwng yn rhydd, ac yn rhyddhau'r holl Iddewon o dollau, ac o dreth yr halen, ac o arian y goron;

30. ac yn lle casglu traean y grawn, a hanner ffrwyth y coed sydd yn ddyledus i mi, yr wyf yn eu rhyddhau o heddiw ymlaen. Ni chasglaf hwy o wlad Jwda nac o'r tair rhandir o Samaria a Galilea a ychwanegwyd ati, o heddiw ymlaen a hyd byth.

31. Bydded Jerwsalem a'i chyffiniau, ei degymau a'i thollau, yn sanctaidd a di-dreth.

32. Yr wyf yn gollwng fy ngafael a'm hawdurdod ar y gaer sydd yn Jerwsalem hefyd, ac yn ei rhoi i'r archoffeiriad, iddo ef osod ynddi wŷr o'i ddewis ei hun i'w gwarchod hi.

33. Yr holl Iddewon a gaethgludwyd o wlad Jwda i unrhyw ran o'm teyrnas, yr wyf yn eu rhyddhau am ddim; ac y mae fy holl swyddogion i ddiddymu'r tollau ar wartheg yr Iddewon.

34. Yr holl wyliau a'r Sabothau a'r newydd-loerau, a'r dyddiau penodedig eraill, a'r tridiau o flaen ac ar ôl gŵyl—bydded y cyfan yn ddyddiau rhyddhau a gollyngdod i'r holl Iddewon sydd yn fy nheyrnas.

35. Ni chaiff neb awdurdod i hawlio dim ganddynt nac i aflonyddu arnynt ar unrhyw fater.

36. “Bydded i tua deng mil ar hugain o Iddewon ymrestru yn lluoedd y brenin, a rhoddir iddynt y gynhaliaeth sy'n gweddu i holl luoedd y brenin.

37. Caiff rhai ohonynt eu gosod yng ngheyrydd cedyrn y brenin, ac eraill mewn swyddi o gyfrifoldeb yn y deyrnas. Bydd eu swyddogion a'u harweinwyr o'u plith hwy eu hunain, ac y maent i fyw yn ôl eu cyfreithiau eu hunain, fel y gorchmynnodd y brenin yng ngwlad Jwda.

38. “Am y tair rhandir a ychwanegwyd at Jwdea o wlad Samaria, boed iddynt gael eu hychwanegu at Jwdea mewn modd i'w hystyried o dan un llywodraethwr, heb orfod arnynt ufuddhau i unrhyw awdurdod ond yr archoffeiriad.

39. “Yr wyf yn rhoi Ptolemais a'r wlad o'i hamgylch yn rhodd i'r cysegr yn Jerwsalem, i gyfarfod â threuliau angenrheidiol y cysegr.

1 Macabeaid 10