1 Macabeaid 10:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. a dywedodd, “Beth yw hyn a wnaethom, bod Alexander wedi achub y blaen arnom i ffurfio cyfeillgarwch â'r Iddewon, er mwyn ei gadarnhau ei hun?

24. Ysgrifennaf finnau hefyd atynt neges galonogol, ac addo iddynt anrhydeddau a rhoddion, er mwyn iddynt fod yn gymorth i mi.”

25. Anfonodd atynt y neges ganlynol:“Y Brenin Demetrius at genedl yr Iddewon, cyfarchion.

1 Macabeaid 10