22. Pan glywodd Demetrius am y pethau hyn bu'n ofid iddo,
23. a dywedodd, “Beth yw hyn a wnaethom, bod Alexander wedi achub y blaen arnom i ffurfio cyfeillgarwch â'r Iddewon, er mwyn ei gadarnhau ei hun?
24. Ysgrifennaf finnau hefyd atynt neges galonogol, ac addo iddynt anrhydeddau a rhoddion, er mwyn iddynt fod yn gymorth i mi.”
25. Anfonodd atynt y neges ganlynol:“Y Brenin Demetrius at genedl yr Iddewon, cyfarchion.
26. Gan i chwi gadw eich cytundebau â ni, ac aros mewn cyfeillgarwch â ni, heb fynd drosodd at ein gelynion—clywsom am hyn, a llawenhau.
27. Bellach, arhoswch mwy mewn ffyddlondeb i ni, ac fe dalwn ni'n ôl i chwi ddaioni am yr hyn yr ydych yn ei wneud drosom.
28. Rhyddhawn chwi o lawer treth, a rhown anrhegion i chwi.
29. “Yn awr yr wyf yn eich gollwng yn rhydd, ac yn rhyddhau'r holl Iddewon o dollau, ac o dreth yr halen, ac o arian y goron;
30. ac yn lle casglu traean y grawn, a hanner ffrwyth y coed sydd yn ddyledus i mi, yr wyf yn eu rhyddhau o heddiw ymlaen. Ni chasglaf hwy o wlad Jwda nac o'r tair rhandir o Samaria a Galilea a ychwanegwyd ati, o heddiw ymlaen a hyd byth.
31. Bydded Jerwsalem a'i chyffiniau, ei degymau a'i thollau, yn sanctaidd a di-dreth.
32. Yr wyf yn gollwng fy ngafael a'm hawdurdod ar y gaer sydd yn Jerwsalem hefyd, ac yn ei rhoi i'r archoffeiriad, iddo ef osod ynddi wŷr o'i ddewis ei hun i'w gwarchod hi.
33. Yr holl Iddewon a gaethgludwyd o wlad Jwda i unrhyw ran o'm teyrnas, yr wyf yn eu rhyddhau am ddim; ac y mae fy holl swyddogion i ddiddymu'r tollau ar wartheg yr Iddewon.
34. Yr holl wyliau a'r Sabothau a'r newydd-loerau, a'r dyddiau penodedig eraill, a'r tridiau o flaen ac ar ôl gŵyl—bydded y cyfan yn ddyddiau rhyddhau a gollyngdod i'r holl Iddewon sydd yn fy nheyrnas.
35. Ni chaiff neb awdurdod i hawlio dim ganddynt nac i aflonyddu arnynt ar unrhyw fater.