1 Macabeaid 10:13-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. gadawodd pob un ei le a dychwelyd i'w wlad ei hun.

14. Eto gadawyd ar ôl yn Bethswra rai o'r sawl a oedd wedi ymwrthod â'r gyfraith ac â'r ordinhadau; oherwydd yr oedd yn ddinas noddfa iddynt.

15. Clywodd y Brenin Alexander am yr addewidion a anfonodd Demetrius at Jonathan, a mynegwyd iddo am y rhyfeloedd, a'r gwrhydri a wnaethai Jonathan a'i frodyr, ac am y caledi a ddioddefasant.

16. Dywedodd, “A gawn ni fyth un tebyg i hwn?

17. Gwnawn ef felly yn awr yn gyfaill a chynghreiriad inni.” Ysgrifennodd lythyrau a'u hanfon ato fel a ganlyn:

18. “Y Brenin Alexander at y brawd Jonathan, cyfarchion.

19. Clywsom amdanat, dy fod yn ŵr cadarn, nerthol; a theilwng wyt i fod yn gyfaill inni.

20. Yn awr, felly, yr ydym wedi dy benodi heddiw yn archoffeiriad dy genedl, ac yn un i gael dy alw yn Gyfaill y Brenin” (ac anfonodd iddo wisg borffor a choron aur) “ac yr wyt i gymryd ein plaid a meithrin cyfeillgarwch â ni.”

21. Gwisgodd Jonathan y wisg sanctaidd amdano yn y seithfed mis o'r flwyddyn 160, ar ŵyl y Pebyll; a chasglodd ynghyd luoedd a darparu arfau lawer.

22. Pan glywodd Demetrius am y pethau hyn bu'n ofid iddo,

23. a dywedodd, “Beth yw hyn a wnaethom, bod Alexander wedi achub y blaen arnom i ffurfio cyfeillgarwch â'r Iddewon, er mwyn ei gadarnhau ei hun?

24. Ysgrifennaf finnau hefyd atynt neges galonogol, ac addo iddynt anrhydeddau a rhoddion, er mwyn iddynt fod yn gymorth i mi.”

25. Anfonodd atynt y neges ganlynol:“Y Brenin Demetrius at genedl yr Iddewon, cyfarchion.

26. Gan i chwi gadw eich cytundebau â ni, ac aros mewn cyfeillgarwch â ni, heb fynd drosodd at ein gelynion—clywsom am hyn, a llawenhau.

27. Bellach, arhoswch mwy mewn ffyddlondeb i ni, ac fe dalwn ni'n ôl i chwi ddaioni am yr hyn yr ydych yn ei wneud drosom.

28. Rhyddhawn chwi o lawer treth, a rhown anrhegion i chwi.

29. “Yn awr yr wyf yn eich gollwng yn rhydd, ac yn rhyddhau'r holl Iddewon o dollau, ac o dreth yr halen, ac o arian y goron;

30. ac yn lle casglu traean y grawn, a hanner ffrwyth y coed sydd yn ddyledus i mi, yr wyf yn eu rhyddhau o heddiw ymlaen. Ni chasglaf hwy o wlad Jwda nac o'r tair rhandir o Samaria a Galilea a ychwanegwyd ati, o heddiw ymlaen a hyd byth.

31. Bydded Jerwsalem a'i chyffiniau, ei degymau a'i thollau, yn sanctaidd a di-dreth.

1 Macabeaid 10