1 Macabeaid 10:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gwnaeth Jonathan ei drigle yn Jerwsalem a dechrau adeiladu ac adnewyddu'r ddinas,

11. gan orchymyn i'r gweithwyr adeiladu muriau'r ddinas, ac amgylchu Mynydd Seion â cherrig sgwâr er mwyn ei gadarnhau; a gwnaethant felly.

12. Yna ffoes yr estroniaid a oedd yn y caerau yr oedd Bacchides wedi eu hadeiladu;

13. gadawodd pob un ei le a dychwelyd i'w wlad ei hun.

14. Eto gadawyd ar ôl yn Bethswra rai o'r sawl a oedd wedi ymwrthod â'r gyfraith ac â'r ordinhadau; oherwydd yr oedd yn ddinas noddfa iddynt.

15. Clywodd y Brenin Alexander am yr addewidion a anfonodd Demetrius at Jonathan, a mynegwyd iddo am y rhyfeloedd, a'r gwrhydri a wnaethai Jonathan a'i frodyr, ac am y caledi a ddioddefasant.

16. Dywedodd, “A gawn ni fyth un tebyg i hwn?

1 Macabeaid 10