1. Yn y flwyddyn 160 daeth Alexander Epiffanes, mab Antiochus, a meddiannu Ptolemais. Derbyniasant ef, ac fe'i gwnaeth ei hun yn frenin yno.
2. Pan glywodd y Brenin Demetrius am hyn casglodd ynghyd lu mawr iawn, ac aeth allan i'w gyfarfod ef mewn rhyfel.
3. Hefyd anfonodd Demetrius lythyrau at Jonathan yn ei gyfarch yn gymodlon a gwenieithus;
4. oherwydd dywedodd, “Gadewch inni achub y blaen i gymodi â hwy cyn i Jonathan gymodi ag Alexander yn ein herbyn ni.
5. Oherwydd bydd ef yn cofio'r holl ddrygau a wnaethom iddo, ac i'w frodyr, ac i'r genedl.”
6. Felly rhoes Demetrius awdurdod i Jonathan i gasglu byddin, i ddarparu arfau, ac i weithredu fel cynghreiriaid iddo. Gorchmynnodd hefyd drosglwyddo iddo y gwystlon oedd yn y gaer.