6. Felly galwodd ei gadfridogion, y rheini oedd wedi eu magu gydag ef o'i ieuenctid, a rhannodd ei deyrnas rhyngddynt tra oedd eto'n fyw.
7. Bu Alexander yn teyrnasu am ddeuddeng mlynedd cyn iddo farw.
8. Yna dechreuodd ei gadfridogion lywodraethu, pob un yn ei dalaith ei hun.
9. Ar ôl ei farwolaeth ef, mynnodd pob un goron brenin, ac felly hefyd eu meibion ar eu hôl hwy am flynyddoedd lawer, a daethant â mwy a mwy o drallodion i'r byd.
10. O'u plith hwy y daeth y gwreiddyn pechadurus Antiochus Epiffanes, mab i'r Brenin Antiochus, a fuasai'n wystl yn Rhufain. Daeth ef i'r orsedd yn y flwyddyn 137 o deyrnasiad y Groegiaid.
11. Yn y dyddiau hynny cododd yn Israel rai oedd wedi gwrthgilio oddi wrth y gyfraith, a chawsant berswâd ar lawer trwy ddweud, “Gadewch i ni fynd a gwneud cyfamod â'r Cenhedloedd sydd o'n hamgylch, oherwydd o'r amser y bu i ni ymwahanu oddi wrthynt, daeth llawer o drallodion ar ein gwarthaf.”