1 Macabeaid 1:51-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

51. Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un.

52. Ymunodd llawer o'r bobl â hwy, sef pawb oedd am ymwrthod â'r gyfraith, a chyflawni drygioni yn y wlad,

53. a gyrru Israel i guddio mewn lleoedd dirgel, ym mhob lloches oedd ganddynt.

54. Ar y pymthegfed dydd o fis Cislef, yn y flwyddyn 145, bu iddynt adeiladu ffieiddbeth diffeithiol ar yr allor, a chodi allorau i eilunod yn y trefi o amgylch Jwda,

55. ac arogldarthu wrth ddrysau'r tai ac yn yr heolydd.

56. Torrwyd yn ddarnau lyfrau'r gyfraith a ddarganfuwyd, a'u llosgi â thân.

57. A phan gaed llyfr y cyfamod ym meddiant rhywun, neu os byddai rhywun yn cydymffurfio â'r gyfraith, fe'i lleddid yn unol â gorchymyn y brenin.

58. Fis ar ôl mis yr oeddent yn defnyddio'u grym yn erbyn yr Israeliaid a gafwyd yn y trefi.

59. Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, offrymasant aberthau ar yr allor yr oeddent wedi ei chodi ar ben allor yr Arglwydd.

60. Yn unol â'r gorchymyn, lladdasant y gwragedd oedd wedi enwaedu ar eu plant,

61. gan grogi'r babanod wrth yddfau eu mamau; lladdasant hefyd eu teuluoedd, a'r sawl oedd yn enwaededig.

62. Er hynny, safodd llawer yn Israel yn gadarn, yn gwbl benderfynol na fynnent fwyta dim halogedig.

63. Yr oedd yn well ganddynt farw yn hytrach na chael eu llygru â bwydydd a halogi'r cyfamod sanctaidd; a marw a wnaethant.

1 Macabeaid 1