1 Macabeaid 1:49-52 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau.

50. Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.

51. Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un.

52. Ymunodd llawer o'r bobl â hwy, sef pawb oedd am ymwrthod â'r gyfraith, a chyflawni drygioni yn y wlad,

1 Macabeaid 1