43. ac yr oedd llawer hyd yn oed yn Israel yn cytuno â'i grefydd ef, gan aberthu i eilunod a halogi'r Saboth.
44. Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad.
45. Yr oeddent i wahardd poethoffrymau ac aberthau a diodoffrwm yn y cysegr, ac i halogi'r Sabothau a'r gwyliau,
46. a digysegru'r deml a'r offeiriaid.
47. Yr oeddent i adeiladu allorau a chysegrleoedd a themlau i eilunod, ac i aberthu moch ac anifeiliaid halogedig, a gadael eu meibion yn ddienwaededig;
48. yr oeddent i'w halogi eu hunain â phob math o aflendid a llygredd,
49. ac felly i anghofio'r gyfraith a newid yr holl ddeddfau.
50. Cosb anufudd-dod i orchymyn y brenin fyddai marwolaeth.
51. Gyda'r gorchmynion hyn i gyd ysgrifennodd y brenin at ei holl deyrnas, a phenododd arolygwyr dros y bobl i gyd, gan orchymyn i drefi Jwda offrymu aberthau fesul un.
52. Ymunodd llawer o'r bobl â hwy, sef pawb oedd am ymwrthod â'r gyfraith, a chyflawni drygioni yn y wlad,
53. a gyrru Israel i guddio mewn lleoedd dirgel, ym mhob lloches oedd ganddynt.
54. Ar y pymthegfed dydd o fis Cislef, yn y flwyddyn 145, bu iddynt adeiladu ffieiddbeth diffeithiol ar yr allor, a chodi allorau i eilunod yn y trefi o amgylch Jwda,
55. ac arogldarthu wrth ddrysau'r tai ac yn yr heolydd.
56. Torrwyd yn ddarnau lyfrau'r gyfraith a ddarganfuwyd, a'u llosgi â thân.
57. A phan gaed llyfr y cyfamod ym meddiant rhywun, neu os byddai rhywun yn cydymffurfio â'r gyfraith, fe'i lleddid yn unol â gorchymyn y brenin.
58. Fis ar ôl mis yr oeddent yn defnyddio'u grym yn erbyn yr Israeliaid a gafwyd yn y trefi.
59. Ac ar y pumed dydd ar hugain o'r mis, offrymasant aberthau ar yr allor yr oeddent wedi ei chodi ar ben allor yr Arglwydd.