31. Ysbeiliodd y ddinas a'i rhoi ar dân, a thynnu i lawr ei thai a'r muriau o'i hamgylch.
32. Cymerasant y gwragedd a'r plant yn gaethion a meddiannu'r gwartheg.
33. Yna gwnaethant Ddinas Dafydd yn gaerog, gyda mur uchel a chryf a thyrau cedyrn, a daeth yn amddiffynfa iddynt.
34. Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle.
35. Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd.
36. Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.
37. Tywalltasant waed y dieuog o amgylch y cysegr,a halogi'r cysegr ei hun.
38. O'u plegid hwy, ffodd trigolion Jerwsalem,a daeth y ddinas yn breswylfa i estroniaid;daeth yn ddieithr i'w hiliogaeth ei hun,a gadawyd hi gan ei phlant.
39. Gwnaethpwyd ei chysegr yn anghyfannedd fel anialwch;trowyd ei gwyliau yn alara'i Sabothau yn waradwydd,a'i hanrhydedd yn ddirmyg.
40. Mawr y gogoniant a fu iddi gynt,a mawr yr amarch a ddaeth iddi yn awr;a throwyd ei gwychder yn dristwch.
41. Yna rhoddodd y brenin orchymyn i'w holl deyrnas fod pawb ohonynt i ddod yn un bobl, a phob un i ymwrthod â'i arferion crefyddol ei hun.
42. Cydymffurfiodd y Cenhedloedd i gyd â gorchymyn y brenin,
43. ac yr oedd llawer hyd yn oed yn Israel yn cytuno â'i grefydd ef, gan aberthu i eilunod a halogi'r Saboth.
44. Anfonodd y brenin lythyrau trwy ei negeswyr i Jerwsalem a threfi Jwda, yn eu gorchymyn i ddilyn arferion oedd yn ddieithr i'r wlad.