1 Macabeaid 1:25-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;

26. griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid,llesgaodd genethod a llanciau,gwywodd tegwch y gwragedd.

27. Ymunodd pob priodfab yn y galar,ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.

28. Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion,a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.

29. Ar ôl dwy flynedd, anfonodd y brenin brif gasglwr trethi i drefi Jwda, a daeth ef i Jerwsalem gyda byddin gref.

30. Llefarodd ef eiriau heddychlon wrthynt yn ddichellgar, a chredodd y bobl ef. Yna yn ddisymwth ymosododd ar y ddinas a'i tharo ag ergyd galed, a lladdodd lawer o bobl Israel.

31. Ysbeiliodd y ddinas a'i rhoi ar dân, a thynnu i lawr ei thai a'r muriau o'i hamgylch.

32. Cymerasant y gwragedd a'r plant yn gaethion a meddiannu'r gwartheg.

33. Yna gwnaethant Ddinas Dafydd yn gaerog, gyda mur uchel a chryf a thyrau cedyrn, a daeth yn amddiffynfa iddynt.

34. Gosodasant yno bobl bechadurus, dynion digyfraith, a'i gwneud yn gadarnle.

35. Cynullasant stôr o arfau a bwyd, ac wedi casglu ynghyd ysbail Jerwsalem fe'i rhoesant yno, a daethant yn berygl enbyd.

36. Yr oedd y lle yn fan cynllwynio yn erbyn y cysegr ac yn fygythiad dieflig i Israel yn barhaus.

1 Macabeaid 1